Atwrneiaeth Arhosol Efallai
y daw adeg pan, oherwydd na allwch reoli eich eiddo a materion ariannol neu les
personol, fydd angen rhywun arnoch i wneud hyn ar eich rhan.
Mae
Atwrneiaeth Arhosol (LPA) yn eich galluogi i roi'r pŵer i'r bobl rydych yn
ymddiried ynddo wneud penderfyniadau ar eich rhan os byddwch yn analluog yn
gorfforol neu'n feddyliol i wneud hynny.
Mae'r
LPA yn ddogfen gyfreithiol rydych chi'n ei llunio er mwyn penodi rhywun rydych
chi'n ymddiried ynddo, fel ffrind, perthynas neu berson proffesiynol, i fod yn
atwrnai i chi. Gellir llunio'r Atwrneiaeth Arhosol ar unrhyw adeg tra bod
gennych y galluedd meddyliol i wneud hynny. Gellir ei defnyddio ar ôl iddi gael
ei chofrestru yn Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unig.
Mae dau
fath o Atwrneiaeth Arhosol, sef Atwrneiaeth Arhosol ar gyfer Eiddo a Materion
Ariannol ac Atwrneiaeth Arhosol Lles Personol. Mae'r LPA ar gyfer Eiddo a
Materion Ariannol yn caniatáu i'ch atwrnai wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd
mewn perthynas â'ch arian a'ch eiddo. Mae'r LPA ar gyfer Iechyd a Lles yn
caniatáu i'ch atwrnai wneud penderfyniadau pwysig mewn cysylltiad â'ch gofal o
ddydd i ddydd ac a ddylid cydsynio i archwiliad neu driniaeth feddygol ar eich
rhan neu ei wrthod.
Gallwn
eich helpu i ddeall beth mae LPA yn ei olygu i chi a sicrhau ei fod wedi'i
gofrestru'n iawn fel na fydd unrhyw amheuaeth ynghylch pwy sydd â'ch caniatâd
chi i wneud penderfyniadau ar eich rhan os daw'r amser.
Cais
i’r Llys Gwarchod Fel
arall, os yw aelod o'ch teulu neu bartner yn colli galluedd meddyliol ac nad
oes Atwrneiaeth Arhosol gofrestredig nac Atwrneiaeth Barhaus ddilys ar waith,
yna gall hwn fod yn amser anodd a gofidus iawn. Gallwn eich helpu gyda'r camau
y mae'n rhaid i chi eu cymryd i wneud cais i'r Llys Gwarchod i benodi Dirprwy i
reoli materion eich anwyliaid.
Cysylltwch
ag aelod o'n tîm; Helen Cole , Dafydd Rees , David Cole , William Jones neu Trystan Davies am gymorth.