Profiant Rydym ni yn George Davies & Evans yn
deall bod colli rhywun sy'n agos atoch chi yn anodd iawn. Yn ystod yr amser
gofidus ac anodd hwn mae cael rhywun y gallwch ymddiried ynddo a dibynnu arno
yn bwysig.
Gallwch fod yn sicr y bydd ein tîm
profiadol ac arbenigol yn eich helpu trwy'r broses gyfreithiol mewn modd
effeithlon ond llawn cydymdeimlad trwy gynnig cefnogaeth i chi bob cam o'r
ffordd.
Pan fydd rhywun yn marw efallai y bydd
angen gwneud cais i'r Llys am awdurdod ffurfiol i ddelio â'r ystâd. Gelwir hyn
yn Grant Profiant neu Lythyr Gweinyddu lle nad oes Ewyllys.
Gall delio â'r ystâd a sicrhau'r Grant
Profiant fod yn broses anodd yn enwedig os ydych chi wedi colli rhywun annwyl.
Gallwn ni yn George Davies & Evans ysgwyddo’r baich hwnnw ar eich rhan a
gall ein tîm profiadol eich cynghori mewn perthynas â chael y Grant Profiant
neu Lythyrau Gweinyddu, gweithredu wrth weinyddu'r ystâd, cynghori ar faterion
Treth Etifeddiant a delio â dosbarthiad yr ystâd i'ch buddiolwyr.
P'un a ydych chi'n teimlo eich bod wedi
cael eich gadael allan o Ewyllys mewn modd annheg, heb gael darpariaeth
ddigonol, neu eich bod yn gweithredu fel ysgutor a bod rhywun arall yn herio'r
Ewyllys, gall ein cyfreithwyr arbenigol helpu. Gallwn ni fel cwmni gynorthwyo i
ddelio â phrofiant a ymleddir neu ddarparu cyngor i gleient ynghylch amau
Ewyllys.
Rydym
wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o ofal i gwsmeriaid a deallwn ei bod yn
bwysig rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar hyd y broses weinyddu. Am gymorth,
cysylltwch ag aelod o'n tîm profiant; Helen Cole , Dafydd Rees , David Cole , William Jones neu Trystan Davies
Fees Information