Trawsgludo Yn George Davies & Evans,
rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr sy'n delio ag eiddo preswyl a masnachol
p'un a yw'n rhydd-ddaliad neu'n lesddaliad. Rydym yn gwerthfawrogi y gall symud
cartref, gwerthu neu brynu am y tro cyntaf fod yn adeg sy’n llawn straen. Mae
ein tîm eiddo arbenigol yn gymwys ym mhob maes o gyfraith eiddo ac yn cynnig
gwasanaeth cyfeillgar, ymroddedig ac effeithlon wrth ddelio â'ch trawsgludiad
preswyl, masnachol neu amaethyddol.
Trawsgludo yw'r term cyfreithiol ar
gyfer trosglwyddo eiddo o un person i'r llall, ac mae'n cynnwys gwerthu a
phrynu eiddo preswyl, masnachol ac amaethyddol. Mae ein cwmni'n delio â phob
math o drafodion eiddo yng Nghymru a Lloegr sy'n cynnwys: -
Prynu
tŷ Gwerthu
tŷ Trawsgludo
Amaethyddol Prydlesi Morgeisi
ac ail-forgeisio Pryniannau
Prynu i Osod Hawl
i Brynu Trosglwyddo
Ecwiti Pryniannau
Cymorth i Brynu Anghydfodau
ynghylch ffiniau Cytundebau
tenantiaeth Tir
cofrestredig neu anghofrestredig, gan gynnwys cofrestru eich eiddo am y
tro cyntaf Fees Information Yma yng Nghyfreithwyr George
Davies & Evans, bydd ein tîm eiddo profiadol ymroddedig yn sicrhau yr
ymdrinnir â'ch mater mewn modd mor hwylus â phosibl a'ch bod yn derbyn
gwasanaeth o ansawdd uchel. O'n swyddfeydd yn Aberteifi neu Gastell Newydd
Emlyn, bydd ein tîm eiddo ymroddedig yn falch o drafod y broses drawsgludo gyda
chi ac i ddelio ag unrhyw ofynion sydd gennych.
Byddwn yn gweld pob cleient yn
bersonol a bydd yr un person yn trin â’ch mater o’r dechrau hyd y diwedd. Bydd
gennych fynediad uniongyrchol i'ch cyfreithiwr trwy gydol y trafodiad ac rydym
wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich trafodiad a
byddwn yma i helpu pob cam o'r ffordd.
Rydym
yn aelodau o Gynllun Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Cyfreithwyr. Mae ein
hachrediad o dan y Cynllun yn golygu ein bod yn cwrdd â'r safonau uchel a
osodwyd gan Gymdeithas y Cyfreithwyr i sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaeth
trawsgludo proffesiynol ac o ansawdd a’n bod wedi cael ein gwirio’n llym gan
Gymdeithas y Cyfreithwyr ynghylch ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn a'n
cywirdeb. Mae aelodaeth o'r Cynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS) yn sicrhau ein bod
yn gallu gweithredu ar ran pob un o Fenthycwyr y Stryd Fawr gan ei fod gan
amlaf yn rhag-amod bod achrediad CQS gan unrhyw gwmni sy'n delio â morgais.
Cysylltwch ag aelod o'n tîm trawsgludo; Helen Cole , Dafydd Rees , David Cole , William Jones neu Trystan Davies am ddyfynbris
rhad ac am ddim.